Main content

Byw mewn lle oer: Darganfod bwyd yn eich cynefin

Yng Nghanada, ar arfordir y Cefnfor Arctig, mae Bae Wakeham. Yno, mae hi mor oer nes bod y môr yn rhewi. Yn y fath amgylchedd rhewllyd mae’n amhosibl tyfu unrhyw beth ond mae’r Inuit yn bobl sy’n arbenigwyr ar ddod o hyd i fwyd sy’n llawn mwynau a fitaminau – cregyn glas. Mae’r cregyn glas i’w cael mewn man annisgwyl – yn ddwfn o dan haen drwchus o fôr wedi rhewi!

Fel eu cyndadau o’u blaenau, mae’r Inuit yn gwybod sut i gyrraedd y cregyn glas, gan eu bod yn deall llanw rhew'r môr – ond mae’n waith peryglus.O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 27 Ionawr 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.

Release date:

Duration:

6 minutes

This clip is from