Main content

Byw mewn lle oer: Hela yn gynaliadwy

Dilynwn yr Inuit yng ngogledd Grønland wrth iddyn nhw hela un o fwydydd mwyaf gwerthfawr yr Arctig – math prin o forfil sy’n cael ei alw’n Narwhal neu Morfil Ungorn. Mae hi’n ganol haf ac mae’r haul yn tywynnu am 24 awr y dydd.

Ymunwn â thri dyn, Kristiansen, Mikele a Gedion, ar eu helfa flynyddol. Rhaid iddyn nhw fyw allan ar y rhew môr tra eu bod yn aros am y Narwhal. Mae eu dull o hela yn draddodiadol iawn, wedi’i drosglwyddo iddyn nhw gan eu hynafiaid – maen nhw’n defnyddio harpŵn wedi’i wneud â llaw ac yn teithio mewn caiacau pren.

O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 27 Ionawr 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.

Release date:

Duration:

7 minutes

This clip is from