Main content

Porfeydd Cynaliadwy: Ffermio cynaliadwy

Mae Ben Tapp yn berchennog ransh wartheg anferth ym mherfeddwlad Awstralia. Trwy adael i’w wartheg grwydro’n rhydd o borfa i borfa’n chwilio am laswellt ffres, mae Ben yn ffermio’n gynaliadwy. Pan ddaw’r tymor mwstro, rhaid casglu ynghyd wartheg fydd wedi crwydro dros gannoedd o erwau – mae hyn yn her aruthrol. Y dull modern o’u casglu yw trwy ddefnyddio hofrenyddion.

O uchder yn yr awyr gall y peilot weld y gwartheg yn hawdd ond rhaid bod yn ofalus iawn – gallai eiliad o ddiffyg canolbwyntio fod yn angheuol. Mae’r dull o gasglu gwartheg â hofrenyddion wedi gweddnewid diwydiant cig eidion Awstralia, a galluogi’r wlad i barhau i ddiwallu’r galw mawr am y cig yn fyd-eang.

O'r gyfres Human Planet darlledwyd gyntaf ar 17 Chwefror 2011 ac ail-leiswyd i'r Gymraeg.

Release date:

Duration:

5 minutes

This clip is from