Main content

Abi Johnson - Bywyd ar y fferm

Er mor anodd yw gwaith fferm, mae Abi Johnson yn ymhyfrydu ar edrych ar ffrwyth yr holl waith caled. Cafodd y stori yma ei chreu ar Weithdy Ffonau Symudol, Chwefror 2008.

Er mor anodd yw gwaith fferm, mae Abi Johnson yn ymhyfrydu ar edrych ar ffrwyth yr holl waith caled.

Cafodd y stori yma ei chreu ar Weithdy Ffonau Symudol, Chwefror 2008.

Abi Johnson:

Wel, ar fferm mae'n bwysig iawn bod pawb yn gweithio hefo'i gilydd. Os ydi neb yn gweithio hefo'i gilydd ma pethau'n medru mynd yn fler, felly mae angen help pawb.

Rhaid i chi godi weithiau am chwarter wedi pump er mwyn mynd allan i gael golwg ar y defaid i sicrhau nad oes trafferth gyda'r wyn a phethau fel 'na.

Ar ddiwedd y dydd, y fferm sy'n dod yn gyntaf, dim chi. Nid ydych yn cael jyst dweud "Dwi'n brysur heddiw, dwi ddim yn gallu helpu."

Mae'n rhaid i chi roi amser i chi'ch hun hefyd ond y fferm sy'n dod yn gynta' bob amser.

Ma'n rhaid i bawb weithio'n galed iawn ar y fferm achos ma gennych chi eifr i fwydo; rhaid i chi newid eu d诺r nhw, rhaid rhoi glaswellt iddyn nhw bob bore a gwneud yn si诺r bod eu gwelyau nhw'n gynnes ac yn neis.

Mae gennym ni hwyaid hefyd sy'n gwneud llawer o lanast ymhob man hefo'r ieir ac ma nhw'n gwneud lot o s诺n hefyd. Ma c诺n defaid angen llawer o help.

Mae gennym ni g诺n bach sydd angen mynd am dro dwywaith y dydd ac angen cael eu bwydo dwywaith y diwrnod. Ma gennym ni 'derriers' a ma' rheina yn ymladd fel y goblyn hefo c诺n defaid hefyd!

Mae'n neis gweithio ar y fferm achos rydych yn cael cyfrifoldeb a rhaid i chi edrych ar 么l yr anifeiliaid. Dwi'n ni'n cael llawer o hwyl hefyd.

Mae'r lle rydyn ni'n byw ynddo yn brydferth iawn. Mae yna lawer o goed o gwmpas a phan mae yna storm ac mae'r coed yn ysgwyd, mae'n rili neis yma. Beth bynnag ydy'r tywydd mae'n neis ac yn le hyfryd i fyw ynddo.

Pan dwi'n henach dw i eisiau bod yn filfeddyg. Does gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn dim byd arall. Dwi eisiau teithio'r byd hefyd a gweld llefydd fel y Ffindir a Seland Newydd. Dwi eisiau mynd i Tibet a gweld Everest a phethau felna.

Dw i eisiau cael gweld pethau cyn i fi orfod setlo lawr. Dwi'n edrych ymlaen at y dyfodol, dwi wedi cynllunio pob peth!

Holi Abi:

Dywedwch rywfaint o'ch hanes.

Fy enw i yw Abi. Dwi'n 13 oed ac yn byw ar fferm. Rwy'n hoff iawn o ffermio a dwi'n hoffi chwaraeon fel gymnasteg a phel rhwyd.

Beth yw pwnc eich stori?

Mae'r stori am fy mywyd ar y fferm a pha mor galed rydych chi'n gorfod gweithio. Mae fy mywyd wedi ei adeiladu o gwmpas y fferm ac mae'n bwysig iawn i mi.

Beth oedd eich profiad o wneud stori ddigidol?

Wnes i fwynhau gwneud y stori ac yn hoffi'r profiad o ffilmio.

Release date:

Duration:

2 minutes