Main content

Emrys Evans - Plu 'Stiniog

Mae yna grefft wrth gawio plu pysgota. Ond i Emrys Evans, o Flaenau Ffestiniog, mae yna bethau pwysicach na'r grefft yma'n unig.

Ond mae gan 'Stiniog rhywbeth arall i'w gynnig...

Holi Emrys Evans yn 2003:

Mae yna grefft wrth gawio plu pysgota. Ond i Emrys Evans, o Flaenau, mae yna bethau pwysicach na'r grefft yma'n unig.

Emrys Evans:

Llechi, chwareli, defaid a glaw. Dyna be' ydy 'Stiniog i'r rhan fwya'. Ond mae gan 'Stiniog rhywbeth arall i'w gynnig - plu 'Stiniog.

Eu dechreuad nhw oedd sefydlu cymdeithas bysgota yn yr ardal ym mis Mehefin 1885. Dros y blynyddoedd, yn dilyn cychwyn Cymdeithas Enfeiriol y Cambrian, cafwyd amodau a fu'n ffafriol i'r casgliad yma i ddechrau dod at ei gilydd.

Un peth a wnaeth y gymdeithas ieuanc yma oedd neilltuo y ddau lyn gamlas ar gyfer pysgota pluen yn unig. Rhywbeth arall a wnaeth y gymdeithas oedd codi cabannau ar lannau ei phrif lynnoedd, lle medrai'r pysgotwyr gael lloches rhag y tywydd, cymryd tamaid o fwyd a chael hoe rhwng pyliau o bysgota.

Yn y cabannau yma, ffurfiau cymdeithasau bychain wrth i'r un rhai gyfarfod ynddynt yn aml a phwnc y siarad a'r sgwrsio y rhan amla' byddai pysgota a phlu.

Canlyniad arall sefydlu'r gymdeithas oedd cynnydd yn y nifer o bysgotwyr a chynnydd yn y diddordeb mewn plu pysgota.

Cymrodd rai at y grefft o gawio plu, ac yn sgil hyn ffurfiodd o dipyn i beth yr hyn a ddaeth i gael ei alw'n blu 'Stiniog.

Byddai llawer yn rhoi cynnig ar gawio ond enwau y rhai a ddaethant yn amlwg yn y grefft oedd: Dafydd Davis, Penffridd; John Owen, 'Rhen Hafod; Ifan John, Ty Canol a Dafydd Owen, 'Rhen Soc.

Glynodd enwau y rhain wrth rai o'r plu, er enghraifft Rhwyfwr Ifan John, Ty Canol; Rhwyfwr mis Awst, Penffridd; Rhwyfwr Pen Gwyrdd, 'Rhen Hafod; Egar Ych, Dafydd Owen yr Hen Soc, mae enwau eraill gyda rhyw swyn iddynt. Egar Ych Gochddu Pengwyrdd, yr Hen Lambad, Llew Bach a llawer mwy.

Llechi, chwareli, defaid a glaw. Dyna ydy'r 'Stiniog i'r rhan fwya', ond i mi, y mae plu 'Stiniog yn golygu llawer iawn mwy.

Erbyn hyn, mae Mared ni, fy wyres, yn saith ac yn rel boi. Mae'n hapus, iach ac yn llawn bywyd, ac yn cadw athrawon yr ysgol gynradd yn brysur. Llynedd 'ddaru sefyll ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd a chystadlu ar yr unawd dan wyth.

Roedd gweld hi yno, yn gwenu o glust i glust, yn golygu cymaint i ni. Oedd hi'n benderfynol o gystadlu, ac o ennill... ac fe wnaeth hi. 'Dan ni mor falch ohoni, ein Mared fach ni.

Holi Emrys Evans:

Ers faint rydych chi wedi byw ym Mlaenau?

Cefais fy ngeni yn y Manod, Ffestiniog, ac wedi byw yn yr ardal ar hyd fy oes o dros bedwar ugain mlynedd. Fe es i weithio yn y chwareli llechi am rai blynyddoedd ac yna yn y gwasanaeth gwladol hyd nes ymddeol.

Mae gennyf ddwy ferch - Marian a Gwennan ac rwy'n daid i bedwar o blant ac yn hen daid i bump.

Rwyf yn weddw ers deugain mlynedd. Fy niddordebau pennaf yw pysgota plu, hanes lleol, archaeoleg chwareli a llenyddiaeth Gymraeg. Rwy'n cawio plu pysgota hefyd.

Beth yw pwnc eich stori?

Mae fy stori am gasgliad o blu pysgota sy'n perthyn i ardal Ffestiniog. Maent yn gasgliad unigryw, yn amrywio'n fawr ac wedi eu llunio gan wahanol drigolion yr ardal. Mae enwau unigryw ar lawer ohonynt, nad ydynt i'w cael y tu allan i'r ardal yma.

Mae diddordeb dwfn gennyf mewn pysgota pluen, ac mewn hanes pysgota yn ardal Ffestiniog. Mae diddordeb hefyd yn y cymeriadau o bysgotwyr sydd yn ac a fu y tu cefn i lunio patrymau y plu a berthyn i'r ardal.

Sut aeth pethau yn y gweithdy?

Roedd yn brofiad unigryw i fod ynghlwm wrth y gwaith. Roedd yn ddiddorol iawn i gael fy ngyflwyno i'r math yma o waith. Fe wnes i fwynhau'r profiad yn fawr.

Release date:

Duration:

3 minutes