Main content

Rhagflas/Preview 16.10.2012

Taro 9: Priodasau o'r un rhyw
Mae David Cameron wedi dweud ei fod e’ am weld pobl hoyw yn cael hawliau llawn i briodi erbyn 2015. Ond, mae nifer yn gwrthwynebu – a’r mater yn bygwth creu hollt enfawr o fewn yr Eglwys. Fe fydd Taro 9 yn cyhoeddi canlyniadau arolwg arbennig gynhaliwyd ymhlith clerigwyr Cymru. Bydd y rhaglen hefyd yn clywed barn y Tra Pharchedig Jeffrey John, Deon yn yr Eglwys yn Lloegr, sydd am weld priodasau i bobl o’r un rhyw yn cael eu cyfreithloni. Bydd yr offeiriad, sy’n wreiddiol o Donyrefail, yn gwneud ei gyfweliad teledu cynta’ ar gyfer y rhaglen. Heno ar Taro 9, a oes croeso wrth yr allor i barau hoyw?
9 o'r gloch yr hwyr ar S4C - isdeitlau ar gael.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

51 eiliad

Daw'r clip hwn o