Main content
Englyn- Y Ferch Greadigol
Tim Mari.
Ar y stryd
Gwawr arall, ac efallai y bydd un,
daw un a'm hadwaenai
â'i "Asu, mêt! Wel, su’ mai?"
i gyweirio'r hen garrai.
Annes Glynn. 9 pwynt
Tim Mererid.
Ai damwain ddwy a dimai - ydw i?
Neu ai Duw gynlluniai
I mi fod yn storm o fai -
Afallen sur efallai?
Nia Powell. 9 pwynt.
Tim Karen Owen.
Hen nain
Ar bentan mae'r cof amdani. Ni wn
ei hanes o'i geni.
Y dwr a aeth a'i stori,
i’r un lle, falle, ’r af i.
Mari Lisa . 9 1/2 pwynt.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Talwrn: Y Ferch Greadigol
-
Pennill Telyn
Hyd: 03:46
-
Cân ysgafn neu rydd
Hyd: 09:25