Yn y gegin gyda Hazel Thomas
Hazel Thomas yn coginio stiw cig eidion a thwmplenni yn ei chegin ger Llanybydder.
1 pwys st锚c stiwio cig eidion
1 winwns
1 moron
2-3 llwy fwrdd past tomato
1 pt stoc llysiau
pupur a halen
ewin garlleg
4 datys ffres
1-2 llwy fwrdd blawd plaen
2 haenen o pancetta wedi torri yn stribedi
Ar gyfer y twmplenni:
100g blawd codi
50g siwet llysiau
1 llwy bwdin mwstard melys perlysiau
5 llwy fwrdd d诺r
pinsiad halen
Pliciwch y moron a鈥檙 winwns ac yna torrwch y ddau i giwbiau bach.
Rhowch olew llysiau mewn sosban ar y gwres a choginiwch y moron a鈥檙 winwns nes eu bod yn meddalu ac yn amsugno鈥檙 olew ond nid yn eu lliwio. Rhowch y blawd mewn cwdyn plastig gyda鈥檙 pupur a halen a rhowch y darnau cig yn y cwdyn er mwyn gorchuddio鈥檙 cyfan yn y blawd a鈥檙 pupur a halen.
Wedi i鈥檙 llysiau gael 5 munud fach, tynnwch nhw allan o鈥檙 sosban i ddysgl, gan gadw鈥檙 sosban ar y gwres wrth wneud hynny. Defnyddiwch lwy gyda thyllau i wneud hyn fel bod yr olew yn syrthio n么l i鈥檙 sosban.
Ysgwydwch y cig yn y cwdyn cyn taflu鈥檙 cig i mewn i鈥檙 sosban i goginio.
Trowch y cig o bryd i鈥檞 gilydd rhag ofn iddo losgi, ac ar 么l cael tipyn o liw ar y cig ychwanegwch y garlleg wedi malu ac ychwanegwch y pancetta hefyd
Ychwanegwch y past tomato a chadwch droi'r cyfan rhag ofn llosgi鈥檙 cig
Ychwanegwch y stoc a鈥檙 datys wedi torri yn f芒n, heb y garreg wrth gwrs a鈥檜 berwi
Rhowch glawr ar y sosban a choginiwch yn araf am ryw 2.5 awr i 3 awr.
I wneud y twmplenni cymysgwch y blawd gyda鈥檙 siwet, ychwanegwch ychydig o halen, llwy bwdin o fwstard melys perlysiau a digon o dd诺r i dynnu鈥檙 cyfan at ei gilydd, digon i greu peli bach.
Cadwch y rhain ar bl芒t (rhowch haenen o flawd ar y pl芒t yn gyntaf) yn yr oergell nes bod eu hangen nhw.
Pan fo鈥檙 stiw bron yn barod ychwanegwch y twmplenni ar wyneb y stiw a choginio am hanner awr arall.
Gellir gweini鈥檙 stiw gyda moron vichy neu unrhyw lysiau arall o鈥檆h dewis.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Iola Wyn
-
Hywel Gwynfryn - hanes ceffyl Madonna
Hyd: 10:52
-
Silff ben t芒n Annette Bryn Parri
Hyd: 10:50
-
Arweinydd y Noson Lawen
Hyd: 09:49