Main content

Dyfroedd cynaliadwy - byw gyda llifogydd

Mae afon Negro yn un o lednentydd yr Amazonas. Rhaid i’r bobl sy’n byw ar lan yr afon baratoi’n gynnar er mwyn gallu bwydo eu teulu yn ystod tymor y llifogydd mwyaf yn y byd. Mae’r pentrefwyr yn meithrin cyflenwad bwyd sy’n unigryw i’w hamgylchedd – crwbanod. Mae’r pentrefwyr wedi sefydlu eu project cadwraeth crwbanod eu hunain er mwyn cynnal a hybu ymhellach niferoedd y crwbanod. Y cwestiwn mawr ydy: a fydd digon o grwbanod yn goroesi i fwydo’r pentrefwyr yn ystod y llifogydd?

Release date:

Duration:

6 minutes