Tir Mawr: Cerdd Rydd neu mewn mydr ac odl, heb fod dros 18 llinell
Hwiangerdd
Bocsio’i phethau hogan fach y mae hi:¬
Lastig plethan pili-pala del,
Bag pinc a chardiau cathod a hen ddoli –
I lofft yr atig ’gân nhw fynd am sbel.
Ac mae hi’n piffian chwerthin yn ei chwrcwd
A chanu’r pennill eto, wrth roi llun
Hen Fenyw Fach Cydweli uwch ei nenfwd:
‘Dwi ’mo’i angen nes ca’i ’mhlant fy hun!’
Mi gadwn hwnnw, gyda’r pethau bychain,
Mewn tywyllwch o dan grib y to:
Mae rhai meddyliau yn ein harwain
Yn rhy bell i’r gors, ac am y tro
Mi ganwn deg am ddimai gyda hi
Gan fentro fod ’na unarddeg i ni.
Myrddin ap Dafydd
9.5
Cyfanswm marciau Tir Mawr: 56
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 21/04/2013
-
Tir Mawr: Cwpled Caeth
Hyd: 00:05
-
Tir Mawr: Cywydd heb fod dros 12 llinell
Hyd: 00:36
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Twtil a Penllyn - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 01:07
-
Y Glêr a'r Diwc
Hyd: 00:51
-
Talwrn Nadolig - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:19