Cerdd Rydd Tegeingl.
Cerdd Rydd mewn mydr ac odl (heb fod dros 18 llinell):
Troi a Throsi
Ddaw cwsg ddim yn gynnar heno,
Na'r un noson arall chwaith,
Mae 'na ias oerach na'r gaeaf
Fel dolur o dan y graith.
Mae'r ffug dawelwch yn danchwa,
A'r mudandod yn sgrech i gyd,
Aeth breuddwyd yn hunllef sydyn,
A'r nefoedd yn uffern fud.
Mor lleddf yw nodau pob alaw,
Ac mor bell, mor bell yw ddoe,
Fe ddarfu'r chwerthiniad hwnnw
Fel blodyn ar derfyn sioe.
Daeth machlud ar ganol bore,
A diwedd i ganol taith,
Fe olchwyd lliwiau yr enfys
Yn l芒n, yn y dagrau llaith.
Does dim ar 么l ond atgofion syn,
A gwagle oer ar obennydd gwyn.
John Gruffydd Jones
9.5
Cyfanswm Marciau Tegeingl: 53.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 28/04/2013
-
Cywydd Tywysogion.
Hyd: 00:35
-
Cerdd Rydd Tywysogion.
Hyd: 00:27
-
Cerdd Rydd Bro Alaw.
Hyd: 00:54
-
Englyn Tywysogion.
Hyd: 00:13
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Y Gl锚r a'r Diwc
Hyd: 00:51
-
Talwrn Nadolig - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:19