Main content

Cân: Yr Anghyfiawnder.

Cân: Yr Anghyfiawnder.

Ar un noson cyn Nadolig, daeth tîm Glannau Teifi ynghyd,
Yn barod i goncro pob gelyn, a’u sgubo o’r neilltu i gyd.
Roedd tymor talyrna yn dechrau; yn ôl arfer y ´óÏó´«Ã½,
Er mai newydd gychwyn oedd Rhagfyr, rown i’n esgus mai Calan oedd hi.

Roedd tipyn o dasg i’w wynebu, rhai oedd herio prif dîm Tanygroes,
Roedd Arwel ac Oernant i’n herbyn, dau o feirdd mwyaf grymus ein hoes.
Fe fuon nhw’n bencampwyr Cymru, er nad wyf yn cofio pryd,
Tipyn o gamp fyddai ennill, a ninnau heb ennill dim byd.

Bu’n paratoadau’n rhai trylwyr - fe gwrddon â’n gilydd ddwywaith
Am baned yng Ngastell Newy’, hanner awr wrth fynd adre o’r gwaith.
Roedd cwpledi Geraint yn llifo, penillion Gwen yn amheus,
A chân wahanol gan Carol na fu’n sôn am bethe neis.

Roedd hi’n hynod o dynn hyd y diwedd, hyd i fawrion Tanygroes,
Tan bwysau enbyd cystadlu, orffen llinell o englyn â phroest.
Roeddem wedi ennill yr ornest! - a hynny’r tro cynta ers tro,
Mi fu dathlu ymhlith ein cefnogwyr, y pedwar yn meddwi’n eu tro.

Ond yna fe ddaeth ergyd farwol, rhoed taw ar yr awen a’r meic,
A chanslwyd darlledu’r Talwrn am fod beirdd wedi mynd ar streic.
O’r siom! O’r anghyfiawnder! Ein camp yn anlwc a droes -
A nawr fydd ‘na neb yn gwybod i ni drechu tîm Tanygroes.

Terwyn Tomos

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o