Main content
Cerdd Rydd: Weithiau.
Rhyngof a fy atgofion
Mae pellter ehangder o hyd
Yn hidlo yr hen adlais
Nes ei fod yn nos faith.
Ambell waith ar nos fel neithiwr
Daw i’r cof drwy y cen
Adeg i oedi
A gafael mewn atgofion –
Cofio y cerfio cain
A’r oed dan y goeden,
A’n henwau yno
Fel brodwaith yn berffaith am byth.
Weithiau daw hwthwm
A’r daily n siffrwd yn frwd drwy’r fro
A ddaw’r ddoe
Yn ol I’r gole
O’r goeden fel rhyw g’lomen glaf
I nythu’n y gallon weithiau?
Gwen Jones
9
CYFANSWM MARCIAU: 51.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 19/05/2013
-
Englyn: CV.
Hyd: 00:09
-
Englyn: CV.
Hyd: 00:13
-
Englyn: CV.
Hyd: 00:10