Main content

Cerdd Rydd: Hwyrach.

Hwyrach (Eryri, Pasg 2013)

Mae sglein rhew ar eira'r Garn, ond dyfnach,
gwynach o hyd yw mudandod braw

y Grib Goch. Yng nghysgod hyn i gyd
bûm innau unwaith eto'n driw i'r drefn

gan ddathlu'r tridium ar ei hyd – y cofio hardd;
ail-greu, ail-fyw yr hen, hen stori

yn ei lliw a'i hofn; yn ei haddewid hefyd.
Rhoi trefn ar ddryswch rhai, sydd i'w weld

o hyd mewn heulwen gynnes braf a'r gwynt meinaf,
duaf un sydd eto'n mynnu llenwi mynwent.

A bod, hwyrach, y tu draw i'r mudandod llethol,
gwyn, sŵn rhaeadrau'n pefrio a lilїau'n lliw.

Dafydd John Pritchard

10

Cyfanswm Marciau: 55.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

48 eiliad

Daw'r clip hwn o