Main content
Pennill Ysgafn: Gair o gyngor i athro neu athrawes.
Athrawon annwyl Cymru,
os ydi鈥檙 hen blant bach
yn haedddu cael eu boddi
fel cathod hyll mewn sach;
Os ydi plant eich dosbarth
mor dwp 芒 chaib a rhaw
a chithau鈥檔 disgwyl hawndi tri
ers chwartar wedi naw;
Os ydi amser chwarae
yn debyg iawn i鈥檙 Somme
a鈥檙 wythien ar eich talcen
yn tician fel tae鈥檔 fom;
Na phoenwch! Mae cyfiawnder,
mi fydd y salaf sydd
yn mynd fel chi鈥檔 athrawon
ar blantos gwaeth rhyw ddydd!
Gruffudd Owen
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 16/06/2013
-
Cerdd Rydd: Carthu.
Hyd: 01:39
-
Cerdd Rydd: Carthu.
Hyd: 00:49