Cân Ysgafn: Diarhebion.
Cân Ysgafn: Diarhebion.
Dyw’r rhagolygon, nôl y sôn, ddim digon dibynadwy.
Y newid hinsawdd gaiff y bai ond dw i am ddod i’r adwy.
S’dim angen map, neu dipyn app, dim ond fy niarhebion;
gall rhain ddarogan unrhyw dro sut dywydd fydd hi’n union.
Os daw y postmon gyda’r wawr, bydd tywydd oer anochel;
os daw yn hwyr, bydd tywydd poeth, os na ddaw fyth, rhaid mochel.
Os clywch eich ci yn cyfarth cân mewn cywair llon cyn deg
bydd swm llythrennau enw’r ci o ddyddiau o dywydd teg.
Ac os fydd rhywun â gwallt gwyn yn tisian yn ddi stop
daw cyfnod hir o eira trwm- rhaid hastu draw i’r siop!
Mae’r gwynt yn chwythu run un ffordd â’r traffig ar ei drymaf
ac os clywch sŵn fan hufen iâ- nid yw yn ganol gaeaf.
Pan fo’ch cysylltiad gyda’r we yn araf neu’n gwanhau
daw niwl a tharth yn drwch cyn hir- ac arnyn nhw mae’r bai.
Tywydd braf yw tywydd bardd, bryd hynny daw ei awen
ond yn yr hirlwm, bydd mewn pŵd, yn gecrus ac aflawen.
Tymheredd mewn gradd selsiws? Wel, marc englyn wedi’i ddwblu
ac wrth ddod at y ffeinal, y mae pethau’n dechrau poethi!
A dyna ni, fy nghyngor i, wrth ddilyn yr arwyddion
cewch syniad gwell o’r hyn sy’i ddod na sy’n y rhagolygon.
Gwennan Evans
 
8