Cerdd Rydd: Carthu.
Rhai pobol sydd yn credu hen chwedlau鈥檙 oes a fu,
Fel stori hen Arch Noa a鈥檙 anifeiliaid lu.
Rhyw gwch bach, bregus gododd, a hynny jyst mewn pryd
I achub anifeiliaid pob math o wyneb byd.
Sdim dowt, whap wedi hwylio, 鈥檙hen Noa gafodd siom:
Sut yn y byd oedd carthu y cruglwyth mawr o ddom?
Am y gorllewin chwythwyd, i ble roedd neb yn si诺r,
A thros Amerig teithiodd (roedd prydni dan y d诺r).
Whilbered fowr diwelodd, r么l carthu catsh y lloi:
Fan honno gwelir heddiw y dalaith Ilinoi鈥.
Yr arch oedd nawr yn llwythog, yn crafu 鈥檙hyd y llawr:
Dechreuad y Grand Canyon sy weld o hyd yn awr.
A beth nawr am 鈥檙hen Noa, fel eira gwyn ei ben,
Ond dim o achos henaint, ond pechod gwylan wen.
Medd eliffant difanners, 鈥淭u fas mae mwy o le.鈥
Chicago鈥檙 ddinas wyntog y gelwir nawr y lle.
O achos wh卯l fflat whilber a choes rhaw tyllau pry,
Nawr mynydd yr Ararat sy鈥 i weld fel tomen ddu.
Arwel Jones
9
Cyfanswm Marciau: 54.5