Main content

Anna Rhys yn adrodd eu hanesion o'i chyfnod yn dysgu yn Lesotho ar raglen 3/6/13

annarhys.blogspot.co.uk

Gwelais yr hysbyseb am y Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho ar wefan Dolen Cymru yn ystod fy amser fel au pair yn Sbaen yr ha’ d’wethaf. Bron i flwyddyn yn ddiweddarach, mae ‘mywyd i wedi newid yn llwyr. Dyma fi, Anna Rhys o’r Bala, yn setlo nôl i fywyd yng Nghymru ar ôl pum mis anhygoel yn gwirfoddoli fel athrawes yn Lesotho gydag elusen Dolen Cymru. Roedd bywyd yn Lesotho yn wahanol iawn- y bobl, y bwyd, y diwylliant, y traddodiadau, y ffordd o fyw, addysg, ffyrdd o ddisgyblu, bywyd cymdeithasol, moesau a llawer mwy. Doeddwn i ddim yn siwr be’ i’w ddisgwyl, nac os oeddwn i’n berson digon cryf i oroesi bywyd ym mynyddoedd godidog y wlad brydferth hon sydd wedi cael ei hangofio gan weddill y byd. Aeth pum mis fel y gwynt. Cefais brofiad anhygoel yn dysgu am wlad sy’n datblygu, gwlad groesawgar tu hwnt a wnaeth i mi deimlo’n gartrefol ac yn fodlon fy myd. Cawsom ein chwech ein trochi yn yr iaith, y diwylliant, y bwyd, y bwrlwm, y crefydd, y canu a’r dawnsio, ac roedd hi’n anodd iawn gadael ein disgyblion a’n ffrindiau yn Nhref Qacha’s Nek. Mae gan Lesotho ddiwylliant arbennig o unigryw, gyda’r trigolion yn teithio ar geffylau yn eu blancedi a’u hetiau gwellt. Gallwch ddarllen fy mlog: annarhys.blogspot.com i glywed rhai o’r hanesion doniol a diddorol! Yn sicr, roedd angen bod yn barod yn gorfforol ac emosiynol ar gyfer yr her wobrwyol hon, yn ogystal â digonedd o amynedd a meddwl agored! Alla’i ddim cyfleu’r mwynhad a roddodd y profiad yma i mi, a’r effaith a gafodd arna’i yn bersonol ac yn broffesiynol. Eleni, mae’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgeiswyr mentrus sydd am rhoi cyfle arni yn Ionawr- Mehefin 2014 ar y 28ain o Fehefin. Cynhelir diwrnodau agored ym Mhrifysgol Bangor ar y 12fed Mehefin (4.30-7.30pm) ac yng Nghaerdydd ar y 23ain Mehefin (amser a lleoliad i’w cadarnhau). Dewch yn llu i’n cyfarfod ac i ddysgu mwy am y rhaglen, y wlad a’r profiadau ffantastig. Y fi oedd yr unig siaradwr Cymraeg eleni, ac yn wir hoffwn i ysgogi mwy o’n athrawon gwych ni i ymgeisio.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

12 o funudau

Daw'r clip hwn o