Main content

Cywydd Mawl i unrhyw gerbyd

Crinwynt sy’n cancro’r Renault –
drws ieir yw ei deiars o;
â’i bum tolc, heb M.O.T.,
mae’n marw mewn mieri.

Yna o’r jyngl, daeth rhyw jóch
o gytgord i dir Giatgoch –
rhag hel sbwriel, creu helynt,
tyˆ gwydr wnaed o’r moto gynt.

Dan ei fonet, tyf letis;
mewn drysau: potiau swît pîs.
O’r hen jync o Renault, Jôs:
dyma iti domatos.

Myrddin ap Dafydd

9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

34 eiliad

Daw'r clip hwn o