Main content

Cân Ysgafn; Y stafell sbar

Bu gennyf stafell sbâr, ond mae wedi ei thrawsnewid
Ers i mi ddarllen cyfrol a wyrdrôdd gwrs fy mywyd.
Mae Petha, gallech dybio, yn denau a disylwedd,
Ond nid mewn milimedrau y dylid mesur mawredd.
Cysegrfan yw bellach, lle penliniaf bob nos
Gerbron yr allor sy’n dal delw hardd o Jôs.

Mae yma ffotograffau lu a dynnais i fy hunan
Efo lwmp o delephoto lens o gopa Garn Boduan,
Lle treuliais oriau meithion yn syllu drwy sbienddrych
Ar brifardd grymus Giatgoch, ar gawr y cerddi gorwych.
Wfft i Neigwl, Sbargo a’r Ap, cans dyma’r pos:
Sut ddaeth prydyddion gwlad fel rhain i gwmni Jôs?

Mewn fframiau ar y wal, mae darn o’i wallt a blewyn llygad,
Pâr o boxer shorts o’i eiddo wedi’u bachu o’r lein ddillad,
A chopi o sawl cân Talwrn yn ei sgrifen o ei hunan.
Ar kitchen roll, wrth reswm – mae hwnnw’n hir a llydan.
Heno, mewn gweithred hyfryd o wrogaeth dlos,
Offrymaf y ddwy linell sbâr o’m cân i Jôs.

Arwel Roberts

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o