Cân Ysgafn: Llythyr Diolch
Cân Ysgafn: Llythyr Diolch
F’anwylaf Liz, sut ’da chi? Sut mae’r bowals a’r VD?
Sgwennu atoch ydw i – i ddiolch ichi’n fawr.
Daeth eich llythyr fore Llun, fy Mawrhydi (f’unig Un):
MBE i mi fy hun! Mi syrthiais ar y llawr.
Ichi Liz, mi rof fy llaw. Er yn wir, mi gefais fraw –
bron nes llefain fel y glaw! Bu’n freuddwyd fawr gen i
fyth ers dyddiau’r aelwyd gynt, ers fy aberth pan wnes stint
dros fy Nghymru (am fy mhunt), gael parti yn B.P.
Mae ’na rai yn gweiddi gwae, rhai yn cylchu am eu prae,
ond yn lwcus, mae’n y Bae sawl ffrind sy’n dallt i’r tî.
Gwneud eu gorau, dyna be, codi jest cyn amser te,
nhw sydd wedi ffeindio’u lle yn weision bach i chi.
W’chi Liz, mae rhai yn gas... Hidied befo, wrth gael blas
ar frechdanau gorau’ch plas, caf gwrdd â’r Georges a’r Daves.
Ac os caf i ddans and song yn eich tÅ· pan gaf y gong,
peidiwch â chael hyn yn rong – Britannia rules the waves.
Ond un pryder mawr s’gen i, rhyngoch chi a fi a’ch ci,
(gwell na dau bob tro yw tri - mi wn fy mod yn gês!),
byddai’n dda cael eglurhad, gan fy mod yn ddyn fy ngwlad,
beth yn enw’r mab a’r tad ar wyneb daear wnes?
Rhys Iorwerth
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 09/02/2014
-
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'pe'
Hyd: 00:04
-
Ateb llinell ar y pryd
Hyd: 00:04
-
Cân Ysgafn: Llythyr Diolch
Hyd: 01:12
-
Englyn: Adnod
Hyd: 00:11