Telyneg neu Soned: Ffoi
鈥淚've got the children to tend鈥╰he clothes to mend鈥︹
Aga i鈥檞 sgwrio, labeli ysgol i鈥檞 pwytho;
Pentwr o olchi, 鈥楧ry Cleaning鈥 i鈥檞 gasglu;
Mynd 芒鈥檙 Volvo am 鈥榲alet鈥, cwrdd 芒鈥檙 nani am baned;
Cewyn i鈥檞 dynnu, pen-么l bach i鈥檞 sychu;
Disgwyl archeb o Tesco, rhoi 'Y Gwyll' i recordio;
Cacen Batman i鈥檞 phobi, cardiau diolch i鈥檞 sgwennu;
Coesau i鈥檞 siafio a gwefus i鈥檞 wacsio;
Ebyst i鈥檞 gyrru, ffrwd Trydar i鈥檞 bori;
Gwisgoedd ysgol i鈥檞 smwddio, ryg Ikea i鈥檞 h诺fro;
'Lean In' i鈥檞 ddarllen; a limrig i鈥檞 orffen.
Law: tyrd i dywallt amdanaf
sgubo鈥檙 cyfan o鈥檙 neilltu;
Storm: tyrd i lapio o鈥檓 cwmpas
Nes bod y cur yn distewi.
Mwyaren ac iPhone; llond Moleskine o restrau:
A dwi鈥檔 gwybod mai fi yw awdur y geiriau;
Y tasgau sy鈥檔 codi fel tyrrau i unman
Yn fy nghlymu i鈥檔 dynn yn fy hualau fy hunan.
Mari Stevens
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 16/02/2014
-
Ateb llinell ar y pryd
Hyd: 00:04
-
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'tra'
Hyd: 00:05
-
Englyn: Cofbin
Hyd: 00:10
-
Englyn: Cofbin
Hyd: 00:11
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Beca a Thafarn Y Vale - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 01:58
-
Twtil a Penllyn - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 01:07