Main content
Telyneg neu Soned: Ffoi
Mae'r byd i'w weld o gopa'r Picws Du
Ac 么l bywydau'n gwau o fryn i fryn,
Mae'r llwybrau'n cynnal olion traed a fu
Yn cilio i'r llonyddwch uwch y llyn.
Daw rhai i'r llecyn yma ar y ban
A chredu bod 鈥檔a ffin rhwng chwardd a chri,
Mai ffol oedd gweithred morwyn llyn y fan,
Bod yna amharch yn ei hystum hi.
Caf innau fynd rhwng craig ac awyr las
I'r man lle nad oes pellach ar y daith.
A rhannu wnaf rhyw bwt o dafell gras
Neu roi i'r adar ddarn o fara llaith,
Gan ganfod deigryn mewn chwerthiniad rhydd
A gw锚n yn ddwfn ym mhob un eiliad brudd.
Aled Evans
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 16/02/2014
-
Ateb llinell ar y pryd
Hyd: 00:04
-
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'tra'
Hyd: 00:05
-
Englyn: Cofbin
Hyd: 00:10
-
Englyn: Cofbin
Hyd: 00:11