Main content

TYWYSOGION: Pennill ymson wrth wneud y golch

Mae hi’n cwyno nad ydw i’n canu cerddi iddi –
yn odli’n cariad yn benillion cain –
ond mae’n anodd cynganeddu â llond hafflau o ddillad
a phrydu ’nghanol tasgau diflas, ynfyd o hanfodol.
A dyna’r aberth beunyddiol sy’n addoliad iddi –
llwytho’r peiriant, cofio’r sebon, gwylio’r troi:

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

22 eiliad