Main content
CRANNOG: Cywydd dyfalu (heb fod dros 12 llinell) i unrhyw wrthrych
‘Between my finger and thumb
The squat pen rests.
I’ll dig with it’
Seamus Heaney
A rhaw finiog ‘sgrifennwyd
Am was bach, am eisiau bwyd.
O boen i Boyne hogwyd barn
Un a gydiai yn gadarn
Fel hen werin y llinach
Yn llafn dur yr awyr iach.
Yn ei law âi’r goes ddi-lol
Yn offeryn corfforol
I weithio cerddi’r tirwedd,
I greu byd ac agor bedd.
A’r rhaw’n arf, yn Nhir na n-Og
‘Sgrifennwyd saga’r fawnog.
Idris Reynolds
10
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 20/04/2014 - Crannog v Beirdd Myrddin
-
CRANNOG: Englyn 'Gwyrth'
Hyd: 00:09
-
CRANNOG: Cân ysgafn 'Y Gymanfa'
Hyd: 01:14
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Y Glêr a'r Diwc
Hyd: 00:51
-
Talwrn Nadolig - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:19