HIRAETHOG: C芒n ysgafn 'Cadw Sg么r'
HIRAETHOG: C芒n ysgafn 'Cadw Sg么r'
Mewn swyddfa segur, dywyll, o eiddo'r 大象传媒,
Mae yno gwpwrdd ffeilio, ac ynddo, wir i chi,
I lawr yn y dr么r gwaelod, 'ny gornel bellaf, ddu,
Mae yno lwyth o rifau, a'u pennau yn eu plu,
Yn teimlo'n wrthodedig, dibwrpas ac yn drist
Am nad yw Ceri鈥檔 crybwyll rhif Chwech na鈥檙 rhifau is.
Eu hunllef yw'r Haneri, gan mai o'u herwydd nhw
Mae Chwech a Phump a Phedwar yn gymaint o dab诺.
A Dau a Thri sydd bellach, fel Un yn fythol brudd
O wybod na ch芒nt hwythau fyth weled golau dydd.
Am hyn, drwy鈥檙 dr么r, mae enw pob hanner marc fel baw,
Aeth Naw yn "9陆"; ac Wyth sydd nawr, fel "naw";
Yn lle rhoi Saith, rho'r meuryn ryw "hanner ar ben wyth";
A'i "wyth" ef yn gyfystyr a'r Chwech, o'r cyflawn lwyth.
Yn lle rhoi "7陆 ", beth am roi Pump ar waith?
Ac yna rhoddi Pedwar, yn hytrach na rhoi "saith".
Os am roi "6陆", rhoi Tri; nid "chwech" ond Dau,
A byddai Un mor falch o weld ei gyfle yn nes盲u.
Er mwyn eu hawl cyfartal, clyw lais eu protest croch,
Rho gyfle iddynt, Ceri....., wrth sgorio Criw鈥檙 Llew Coch.
Gwenno Davies
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 11/05/2014 - Criw'r Llew Coch yn erbyn Hiraethog
-
HIRAETHOG: Enlgyn 'Clwb'
Hyd: 00:16
-
CRIW'R LLEW COCH: Englyn 'Clwb'
Hyd: 00:14
-
HIRAETHOG: Telyneg neu soned 'Cae'
Hyd: 00:58
-
CRIW'R LLEW COCH: Telyneg neu soned 'Cae'
Hyd: 00:37
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Y Gl锚r a'r Diwc
Hyd: 00:51
-
Talwrn Nadolig - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:19