HIRAETHOG: Telyneg neu soned 'Cae'
Cae – Theatr Breuddwydion
Y bêl yn sownd i’w draed wrth ddriblo’n chwim
drwy goesau hurt y lleill cyn saethu’i gôl,
mae’r bychan fel ei rieni’n deall i’r dim
fod ganddo’r ddawn a’i ceidw o’r ciw dôl.
Wrth estyn y bêl eto o gefn y rhwyd,
mae’r bychan boldew wedi sori’n bwt
ac yn dyheu am alwad mam at fwyd
i’w arbed rhag y dirmyg yn y cwt.
Tu ôl y gôl yn pwyso ar ei ffyn,
heb gicio pêl erioed â’i goesau cam,
mae’r bychan eiddil eto’n gwylio’n syn
at gamp y ddau cyn adrodd wrth ei fam.....
a deigryn honno’n cofio fel erioed
fod mwy rhwng camp a champ yn ddeuddeg oed.
Eifion Lloyd Jones
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 11/05/2014 - Criw'r Llew Coch yn erbyn Hiraethog
-
HIRAETHOG: Enlgyn 'Clwb'
Hyd: 00:16
-
CRIW'R LLEW COCH: Englyn 'Clwb'
Hyd: 00:14
-
CRIW'R LLEW COCH: Telyneg neu soned 'Cae'
Hyd: 00:37
-
HIRAETHOG: Cân ysgafn 'Cadw Sgôr'
Hyd: 01:28
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Twtil a Penllyn - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 01:07
-
Y Glêr a'r Diwc
Hyd: 00:51
-
Talwrn Nadolig - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:19