Main content

Y FFOADURIAID: Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y chwerw’n troi’n chwarae

Y FFOADURIAID: Cân ysgafn Y chwerw’n troi’n chwarae

Mi wyddai y ddwy ochr y byddai’n frwydr fawr
Ac felly penderfynwyd: byddai’r kick-off gyda’r wawr.
Roedd pawb ’di cael sanau newydd sbon o adra yn eu sach,
Heblaw am Now, wnaeth orfod chwarae’n droednoeth, druan bach.
Rhyw horwth mawr o Firmingham a safai yn y gôl
Ond gan mai Cymry oedd y lleill doedd o’n dallt bygyr ôl.
Ac felly pan ofynnodd rhywun iddo basio’r bêl
Mi daflodd yntau ddwy grenade – roedd hynny’n ‘mega fail’.
Chwaraewr gorau’r Jyrmans oedd yr ymosodwr, Ffritz,
Ond mi redodd o nôl i’r dugout efo pwl go gas o ... nits.
Mi drodd y chwarae’n fudur ac mi gollodd Wil ei bans
A’i floedd ar y sawl a’u tynnodd? ‘Paid â chwara ’fo hwnna Hans!’
Roedd Jim o’r South Wales Borderers yn ‘whare’n itha gwd’ –
Mi sgoriodd gôl, cyn dathlu’n syth fel Klinsmann yn y mwd.
Bu bygwth mawr rhoi stop i’r gêm gan ddiawl bach o gadfridog
Oherwydd byrstiwyd pedair pêl ar res o weiren bigog.
Ond daeth y chwiban am ffwl teim, ac felly gyda’r nos
Yn ôl i’w le yr aeth pob un, i amddiffynfa’r ffos,
A drannoeth cafwyd chwiban unwaith eto gyda’r wawr,
A’r ddwy ochr eto’n gwybod y byddai’n frwydr fawr.

LlÅ·r Gwyn Lewis
8

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau