Main content

Y FFOADURIAID: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Tynnu’n Groes

Fe ddaethon nhw ’mlaen yng Nghaer
ar ddiwrnod tanbaid cynta’r flwyddyn,
ond doedd eu golygon ddim tua’r môr
a wibiai’n emrallt heibio i’r ffenest,
’mond wynebu’i gilydd dros fwrdd bach plastig
heb weld plygiadau gwydr yr haul.

Roedd y tad yn galed, a phob cyhyr o’i eiddo’n
tynhau drwy bob troad, pob cwestiwn
o enau’r mab. Roedd yntau’n feddal
i gyd, yn gwenu, ac yn drên o chwilfrydedd.
A fesul gorsaf, eglurai’r tad bod y fam
yn aros; byddai yntau, y tad, yn dychwelyd,
ar hyd lein arall. Tawelwch. Tynhau.

Yna’r mab yn gwenu, gan ddweud ‘mi fedra-i
weld fy hun yn dy lygaid di, dad’,
a meddalwch y gweld yn doddi tawel rhyngddynt.
Gwyliais y ddau yn glanio, heb ddal
y ffarwel, na’r ddau yn tynnu i’w gwahanol ffyrdd,
achos plymiodd y trên o’r awyr las i dywyllwch tanbaid y twnel,
a’r môr yn mynd o’r golwg, a’r gwylanod gwyn, a’r haul.

LlÅ·r Gwyn Lewis
10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud