Swyddfa'r Western Mail, Caerdydd: Cartwnau Rhyfel JM Staniforth
Roedd JM Staniforth yn defnyddio ei gartwnau i gyfleu negeseuon am y rhyfel
JM Staniforth oedd prif gartwnydd y Western Mail yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe luniodd yn agos at 1350 o gartwnau yn ystod cyfnod y rhyfel.
Er iddo gael gael ei eni yng Nghaerloyw, fe symudodd i Gaerdydd yn fachgen bach, ac ystyriodd ei hun yn Gymro.
Defnyddiai ei luniau i gyfleu negeseuon arbennig y cyfnod. Un o’i ddelweddau mwyaf grymus oedd cymeriad o’r enw ‘Dame Wales’ (Mam Cymru).
Mae yna brosiect cyffrous gan Brifysgol Caerdydd yn y broses o roi ei waith ar y we, ac felly’n ail-gyflwyno cartwnau'r dyn arbennig yma, yn ddigidol i ni, gan mlynedd ar ôl iddyn nhw ymddangos ar dudalennau papurau newydd cyfnod y Rhyfel Mawr.
Yma, mae Dinah Jones, aelod o bwyllgor y prosiect, a’r cartwnydd Huw Aaron yn trafod gwaith Staniforth, tra ar leoliad tu allan i hen safle swyddfeydd y Western Mail, ar Heol y Santes Fair, Caerdydd.
Erbyn hyn mae'r Western Mail yn rhan o Media Wales a'u swyddfa yn Stryd y Parc, Caerdydd.
Lleoliad: Hen swyddfeydd y Western Mail, Heol y Santes Fair, Caerdydd, CF10 1FA