Y CŴPS: Cân (heb fod dros 20 llinell) ar y mesur tri thrawiad: Yr Orymdaith
Wele’r Dic Sion Dafyddion, a’r llu o wleidyddion
A’r parchus swyddogion digalon eu gwedd
Ynghyd ar cynghorwyr a’r syber ‘wladgarwyr’
Hebryngwyr ein hiaith i’w hir annedd.
Swyddogion Cynllunio, maen nhw hefyd yno,
Yn rhyw esgus o gwyno a chrio’n ddi-chwaeth,
Gohebwyr Llundeinig, trwsiadus, dinesig,
A’u hwylo gor-drasig a helaeth.
A’r rhiaint esgeulus, bu pob un a’i esgus
Tros gadw’r iaith felys rhag gwefus eu plant,
Peth od o ddigyffro fu’r gwrthod trosglwyddo
A rhwymo eu hil wrth hen ramant.
Ta waeth mae’r orymdaith yn mynd ar ei hymdaith
At dir llaith a diffaith ar gyrion y dre
Hen iaith llawn cyfaredd a roddir o’r diwedd
I orwedd mewn tywyll ddaearle.
A nawr wedi’r claddu cawn gyfle i ddathlu
Naw wfft i alaru, cawn ganu yn llon
Fe godwyd hen bwysau yn rhwydd o’n hysgwyddau
A siawns na chawn ninnau droi’n Saeson.
Dafydd Morgan Lewis
8
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 29/06/2014 - Y Cŵps yn erbyn Y Glêr
-
Y GLÊR: Englyn yn enwi unrhyw arf
Hyd: 00:09
-
Y CÅ´PS: Englyn yn enwi unrhyw arf
Hyd: 00:11
-
Y GLÊR: Trioled - Enfys
Hyd: 00:22
-
Y CÅ´PS: Trioled - Enfys
Hyd: 00:21