Main content

Y GL脢R: C芒n (heb fod dros 20 llinell) ar y mesur tri thrawiad: Yr Orymdaith

Yr Orymdaith (foreol i鈥檙 gwaith)

Yn gynnar bob bore mae pawb am y gore
yn gwisgo eu sane am saith,
gan lyncu mewn munud eu Weetabix soeglyd
cyn gyrru yn gysglyd i鈥檙 gwaith.
Y teiars sy鈥檔 llosgi a sawl un yn rhegi
wrth swyrfio drwy鈥檙 rhesi arhosol;
mae rhai鈥檔 paentio鈥檜 haeliau tra鈥檔 cymryd galwadau
wrth refio yn griwiau dagreuol.
Ond i mi mae鈥檔 wahanol. Yn wir, reit hamddenol
yw鈥檙 orymdaith foreol, heb frys.
鈥橰么l codi o鈥檙 gwely fe wisgaf fy onesie
(nid ydw i鈥檔 credu mewn crys),
ac ar 么l imi yfed fy mhedwaredd ddishgled,
cael brecwast, ystyried y stocks
and shares, crafu tato, glanhau鈥檙 badell ffrio,
bwydo鈥檙 pysgod a sortio fy socs,
gwneud croesair, barddoni, cael hoe, darllen stori
am rali Cymdeithas yr Iaith
a dysgu fy adnod, rwy wedyn yn barod
i ddechrau gwneud diwrnod o waith.

Iwan Rhys (Hywel Griffiths yn darllen)
8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud