Main content
CRIW'R LLEW COCH: Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Drain
Crataegus a Spinosa
( Y Dddraenen Wen a’r Ddraenen Ddu )
Ym Mai, yn feinwen fain,
Yn Olwen ar fy llwybr llaethog ,
A’m coron wen yn chwerthin melys
Yn dawnsio ‘mysg rhubanau,
A phetalau’n fflyrtian efo’r awel ;
Gwên gan wefus feddal
Dan barasol Crataegus
A brath y pigau’n goglais
goglais fy mron.
Yn Nhachwedd, chwerw, llwm,
MorrÃgan o’r neilltu, yn alltud,
A’m ffrwythau du yn wingo sur,
Yn ferddwr ‘mysg cysgodion
A deiliach sydd yn chwythu yn chwithig;
Gwawd gan dafod filain
Dan gwman y Spinosa
A brath y pigau’ n gwanu
gwanu fy mron.
Mair Tomos Ifans
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 06/07/2014 - Criw'r Ship yn erbyn Criw'r Llew Coch
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Y Glêr a'r Diwc
Hyd: 00:51
-
Talwrn Nadolig - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:19