Cân gyfoes o’r oes o’r blaen ar y radio
Myrddin ap Dafydd yn sgwrsio ar raglen Bore Cothi ac yn darllen cerdd.
Myrddin ap Dafydd yn sgwrsio ar raglen Bore Cothi ac yn darllen cerdd.
"Dwi wedi bod yn gweithio ar gerdd am ganeuon dwi’n eu clywed ar y radio. Yn arbennig y caneuon roedd Richard Rees yn eu chwarae fore ddoe. Caneuon cyfoes o’r oes o’r blaen ydi rhai ohonyn nhw – clasuron gan Endaf Emlyn, Dewi Pws, Ems ac ati. Caneuon newydd gan fandiau newydd ydi gweddill y rhagen – Al Lewis, Alun Tan Lan a Lowri Evans ac ati. Mae’r rhaglen hon yn fwy na’r un yn dangos bod caneuon radio yn gyfeiliant i ddegawdau o’n bywydau ni! Mae’n dangos fod na draddodiad sydd ddim yn darfod, ac yn dal i dyfu."
Felly dyma gerdd am y caneuon hynny.
Cân gyfoes o’r oes o’r blaen ar y radio
Mae’r botwm wedi’i bwyso; ni ddaw’n ôl
Y gân, y galon honno, dyddiau iau –
Ond dal i’w clywed mae’r tonfeddi ffôl.
Y tynnu sylw, yna’r tynnu stôl
A’r alaw’n jeifio rhwng canhwyllau dau:
Mae’r botwm wedi’i bwyso; ni ddaw’n ôl.
Ar ôl yr wˆyl, cariadon roc a rôl
A welodd bandiau’n gadael, giatiau’n cau –
Ond dal i’w clywed mae’r tonfeddi ffôl.
A phwy sy’n dal i gofio’r Hen Down Hôl?
Yr eiliad ddofn, ac amser yn dyfnhau?
Mae’r botwm wedi’i bwyso; ni ddaw’n ôl.
Blynyddoedd doeth sy’n datod edau’r siôl
O nodau, ac mae’i llun a’i lliw’n pellhau;
Ond dal i’w clywed mae’r tonfeddi ffôl.
Rhaid imi ollwng hyn i gyd o ’nghôl,
Mae’r traciau’n pylu ac mae’r tâp mor frau;
Mae’r botwm wedi’i bwyso; ni ddaw’n ôl.
Ond dal i’w clywed mae’r tonfeddi ffôl.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Bore Cothi
-
Iestyn Garlick
Hyd: 29:10
-
John ac Alun
Hyd: 26:05