Main content

TIR MAWR: Telyneg ar fydr ac odl - Iard

Y llwch o鈥檙 derw a鈥檙 iroko pan aent trwy鈥檙 llif,
Y tuniau paent, rhai鈥檔 hanner gwag rhai鈥檔 hanner llawn,
Ysgerbwd rhyw hen gwch, y seiri wrth y fainc
A thrugareddau na wn be ynt yn iawn.

Y bachgen swil a distaw pymtheg oed
Mwg baco, gwymon, naddion coed a llaid,
S诺n weiars ar y mestus yn y gwynt
Y dyddiau difyr, bywyd braf di baid.

Fe lifodd ffilm o luniau clir trwy鈥檙 cof
A chyffwrdd fy synhwyrau fel hen win
A鈥檙 blwch a ddaliai swyn yr oes a fu
Oedd pwced byti blastig, 芒鈥檌 had llin.

Huw Erith
9

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

43 eiliad