Main content
Brynsiencyn, Ynys M么n: Capel John Williams
Roedd John Williams Brynsiencyn yn weinidog yng nghapel Horeb ym Mrynsiencyn, Ynys M么n, am gyfnod.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn un o bregethwyr amlycaf Cymru. Trwy ei gyfeillgarwch gyda Lloyd George fel gafodd ei wneud yn swyddog recriwtio gyda chyfrifoldeb dros annog bechgyn Cymru i gofrestru yn y fyddin.
Teithiodd drwy Gymru yn recriwtio dynion ifanc drwy鈥檙 capeli ac oherwydd ei ddawn i bregethu a鈥檙 parch oedd iddo roedd yn llwyddiant ysgubol.
Ond pan ddaeth maint colledion y Cymry yn amlwg wrth i鈥檙 rhyfel fynd yn ei blaen roedd sawl teulu yn rhoi鈥檙 bai ar John Williams am golli mab neu dad neu frawd ac fe bylodd yr enw da oedd ganddo.
Lleoliad: Capel Horeb, Brynsiencyn, Llanfairpwllgwyngyll, Ynys M么n, LL61 6UG