Main content

Myrddin ap Dafydd - Diod Orau Cegin Gwenno

Wedi eitem gyda Tony Hatcher ar raglen Geraint Lloyd nos Fawrth yn Sioe Llanelwedd.

Diod Orau Cegin Gwenno

Beth eleni oedd yn gwerthu
Yn y bar yn Sioe Fawr Cymru?
Ar y Maes, a’r haul yn danbaid,
Rhaid bod pawb yn mynd am lymaid.

Gwin y gwan yng Nghegin Gwenno –
Gwan oedd llif y gasgen honno;
Seidar fferm o’r fala gora’ –
Pasio’r pwmp yr oedd y dyrfa.

Peint go-iawn o gwrw chwerw –
Surodd sels y cwrw hwnnw;
Cwrw coch a chwrw melyn –
Prin y gwagiwyd un diferyn.

Sangria, Pimms a gwinoedd tramor –
Nid oedd diben bron eu hagor;
Lager bybliog; cwrw ceglyd –
Pasiwyd heibio’n ddigon sychlyd.

Beth eleni oedd yn gwerthu
Yn y bar yn Sioe Fawr Cymru?
Dwr – yn oer a chlir a hyfryd;
Dwr yn bur o ffynnon bywyd.

Gawn ni gân yng Nghegin Gwenno?
Dwr Huw Jones oedd amla yno;
Synnu mawr oedd ym mar Stocmans
Fod pawb leni’n cadw’i falans!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau

Daw'r clip hwn o