CRIW'R LLEW COCH: Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Y Cyfweliad
CRIW'R LLEW COCH: Cân ysgafn (heb fod dros 20 llinell): Y Cyfweliad
Dewch i mewn, eisteddwch i lawr – ond plîs, ddim rhy gyfforddus,
Mae ambell un ‘di bod o’ch blaen ond doeddwn i’m yn hapus;
A allwch newid ffiws ? A phlwg ? A gwnio ffansi dress ?
Sut mae’ch ‘lemon drissle’ chi ? Cawl Cennin ? ‘Eton Mess’ ?
‘Di’ch drôrs chi’n llawn o shyfflach ? Jar fotymau fawr fawr fawr ?
A pha mor sych y bydd eich mop wrth ichi olchi’r llawr ?
‘Plygu shetin ? Plygu ‘sheet’ ? A newid bag yr hwfyr ?
Nafigêtio carafan yr holl ffordd lawr i Dover ?
‘Di Tommo’n well na Geraint Lloyd ? neu ydio’n waeth na Jonsie ?
Nid mod i’n gwrando – fyddwch chi ? – mae’n well gen i Sian Cothi ..
Pa fudiad yw eich dewis ? M.Y.W neu’r W.I
A chofiwch bod rhaid ‘chi ddewis o leiaf un o’r ddau !
Trefnu biliau? Golchi car ? A phalu’r ardd a chrowsio ?
Torri coed a gosod tân ? Ac ateb ffôn a phaentio ?
Rhostio cig ? Ac agor tun ? A chwipio hufen weithiau ?
Plwmpio clustog? Cosi bol ? A chneifio gwallt a chlustiau ?
Mi wnewch y tro, fe gewch y job o warchod Nhrysor i
Mae’n hen bryd iddo briodi siawns ac yntau’n ffiffti thrî !
Mair Tomos Ifans
9.5