Bangor, Gwynedd: Lloyd George yn pregethu rhyfel yn yr Eisteddfod
Araith ryfelgar Lloyd George yn 1915 ar achlysur cadeirio'r heddychwr TH Parry-Williams
Roedd Seremoni'r Cadeirio yn Eisteddfod Bangor 1915 yn un lawn tensiwn wrth i ddau o fawrion y genedl rannu llwyfan, y gwleidydd mawr David Lloyd George a'r bardd TH Parry-Williams.
Roedd TH Parry-Williams yn fardd ifanc disglair ac enillodd y ‘dwbl’ am yr eildro ym Mangor (sef y Goron a’r Gadair yn yr un eisteddfod). Roedd wedi gwneud hynny yn barod yn Wrecsam yn 1912.
Ond fel heddychwr, roedd ganddo atgofion cymysg o’r ŵyl yma gan i Lloyd George, cyn ganghellor y Llywodraeth, a oedd newydd ei benodi'n Weinidog dros Arfau, ddefnyddio’r seremoni gadeirio i roi araith dros y rhyfel gan alw ar fechgyn Cymru i 'ymladd dros ryddid dynoliaeth'.
Roedd yr ŵyl wedi ei gohirio y flwyddyn gynt gan fod y Rhyfel Mawr wedi dechrau fis Awst 1914.
Ond gan fod y trefniadau i gyd yn eu lle ar gyfer cynnal y Brifwyl ym Mangor, penderfynodd y trefnwyr y bydden nhw’n colli mwy o arian drwy beidio cynnal yr eisteddfod hon na phe baent yn ei chynnal. Felly aethon nhw ymlaen gyda'r gwaith a chodi pabell fawr ar dir y 'College Park, o flaen Prifysgol Bangor ynghanol y ddinas.
Lloyd George oedd Llywydd Anrhydeddus yr ŵyl a byddai ei araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn yn denu miloedd o Gymry oedd yn dod i wrando ar eu harwr.
Roedd ei eiriau yn gwbl groes i ddaliadau TH Parry-Williams a wrthododd ymuno yn nes ymlaen yn ystod y brwydro gan sefyll fel gwrthwynebydd cydwybodol.
Yn eironig roedd Hedd Wyn yn un o’r beirdd aflwyddiannus am y gadair y flwyddyn honno.
Cafodd y rhyfel effaith ddwys ar TH Parry-Williams a newid ei ysgrifennu a’i feddylfryd. Hyd at 1914 roedd wedi bod yn fyfyriwr yn yr Almaen a Ffrainc ac yn siarad Almaeneg yn rhugl. Mae’r gerdd a enillodd iddo’r goron yn 1915 yn nodi dechrau Moderniaeth mewn barddoniaeth Gymraeg.
Nia Lloyd Jones sy'n adrodd yr hanes a Dr Angharad Price, darlithydd ac awdur y gyfrol Ffarwél i Freiburg am grwydriadau cynnar TH Parry Williams, sy'n sôn am yr effaith ar y bardd.
Llun: Lloyd George yn y dorf ym mhafiliwn Eisteddfod Bangor 1915 drwy garedigrwydd Casgliad y Werin, TH Parry-Williams a golygfa o Brifysgol Bangor o'r lle y cynhaliwyd yr eisteddfod.
Lleoliad: 'College Park', Prifysgol Bangor, Gwynedd, LL57 2DG.