Wrecsam: Cannoedd o fenywod yn gweithio mewn ffatri fomiau
Roedd y bomiau mortar o ffatri'r Brodyr Powell yn hollbwysig i'r brwydro yn y ffosydd.
Cwmni yn gwneud peiriannau amaethyddol a sefydlwyd yn y 19eg Ganrif oedd Powell Brothers yn wreiddiol. Ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe drodd y cwmni at gynhyrchu bomiau mortar ar gyfer gynnau Stokes.
Roedd bomiau o鈥檙 math yma鈥檔 rhan hollbwysig o鈥檙 brwydro yn y ffosydd. Yr hanesydd lleol Alister Williams sy鈥檔 esbonio mwy am y cwmni a鈥檙 gynnau Stokes yn y clip.
Y casys ar gyfer y bomiau mortar oedd yn cael eu creu ar y safle yn Wrecsam; fe fydden nhw wedyn yn cael eu llwytho ar y tr锚n yn yr orsaf gerllaw a鈥檜 cludo i safleoedd eraill i gael eu llenwi 芒 deunydd ffrwydrol.
Fel yn hanes nifer o ffatrioedd a gweithfeydd eraill roedd yna brinder gweithwyr wrth i nifer o ddynion ymrestru yn y lluoedd arfog. Fe gyflogwyd mwy a mwy o fenywod gan Powell Brothers ac erbyn 1918 roedd rhai cannoedd o fenywod yn gweithio yno.
Dioddefodd y teulu Powell fel cynifer o deuluoedd eraill oherwydd y Rhyfel Mawr. Fe laddwyd un o鈥檙 brodyr, Dafydd Emrys Powell, yn 1918.
Wedi鈥檙 rhyfel fe benderfynodd y teulu newid cyfeiriad a chynhyrchu beiciau modur yn hytrach na pheiriannau amaethyddol. Fe ddaeth y busnes yna i ben wedi ychydig flynyddoedd yn unig yn 1925.
Erbyn hyn cwmni sy鈥檔 gwerthu deunyddiau ar gyfer adeiladwyr sydd ar safle gwaith Powell Brothers.
Llun: Gweithwyr ffatri'r Brodyr Powell yn Wrecsam.
Lleoliad: Ffatri Powell Brothers, Gorsaf Reilffordd, Wrecsam, LL11.