Main content

Heol Caradog, Aberystwyth: Erledigaeth yr Athro Eth茅

Cafodd darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ei erlid o'r dref gan dorf wrth-Almaenig.

Ym mis Hydref 1914, gyda phropoganda gwrth-Almaenig yn wenfflam yn fuan wedi toriad y Rhyfel Byd Cyntaf, tr么dd rhai o bobl Aberystwyth ar yr Almaenwyr oedd yn byw yno a'u hanfon o'r dref mewn ton o gasineb.

Un o'r rhai mwyaf amlwg oedd yr Athro Hermann Eth茅, darlithydd adnabyddus yn ei 70au oedd wedi byw yn y dref ers bron i 40 mlynedd.

Roedd yn Athro mewn Almaeneg a ieithoedd y Dwyrain yn y Brifysgol ac yn cael ei ystyried yn athrylith yn ei faes.

Yr haneswyr Tegwyn Jones a'r Athro Russell Davies sydd yn crynhoi digwyddiadau yng ngorsaf reilffordd Aberystwyth ac, yn ddiweddarach, ar Heol Caradog yn y dref, pan ddaeth torf o filoedd at ei gilydd a gorfodi Eth茅 a'i wraig i adael eu cartref am byth.

Fe wnaethon nhw ddianc dros nos i Loegr a setlo'n ddiweddarach yn ardal Clifton, Bryste. Chawson nhw fyth ddod n么l i'w cartref yn Aberystwyth a bu farw Eth茅 yn 1917.

Daw'r clip hwn o'r rhaglen Bravo Aberystwyth, 大象传媒 Radio Cymru, gyda Marion Loffler yn olrhain hanes erlidigaeth trigolion Almaenig Aberystwyth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Lleoliad: 3 Heol Caradog, Aberstwyth, SY23 2LB.
Llun: Prifysgol Aberystwyth a chartref Eth茅 yn Heol Caradog.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau