Main content

Unfed ar ddeg o'r unfed ar ddeg

Pa dawelwch, meddwch? Mae
o hyd ochain. Cadachau
gwlypion, cochion. Cornel cae

yma a thraw, trum a thre,
heolydd wastad rhywle'n
waedlyd, gawodlyd, a gwe

o filwyr yn rhyfela.
'Fighter jet' yn gwybeta.
Tawelwch, tynerwch? Na.

Mae'r galar militaraidd
a'r iaith brudd yn brathu, braidd,
yn nwyster tocynistaidd

'eleven eleven'. Torch ar lain.
Par锚d yn enw Prydain,
ffanfferio heb wrando'r brain.

Gwae'r neb ar ein sgriniau ni,
gwae bawb heb wisg o babi,
Talp o gywilydd i ti'r

gwleidydd sydd i'r dydd yn dod
heb flodyn dangos undod,
heb air o deyrnged barod

i'r gwyr dan y cerrig gwyn,
er dal i glywed wedyn
yn Irac yr oriau hyn

dwrw'r waedd. Rocets ar dro
ym Mhalesteina'n tanio;
yn Syria'r ne'n ceseirio.

Pa dawelwch, meddwch? Mae
o hyd ochain, Cadachau
gwlypion, cochion. Cornel cae

yma a thraw, trum a thre,
heolydd wastad rhywle'n
waedlyd, gawodlyd, a gwe

o filwyr yn rhyfela.
'Fighter jet' yn gwybeta.
Tawelwch, tynerwch? Na.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o