Main content

Rhys Iorwerth - Bob dau haf...

Bob dau haf mi fyddaf i鈥檔 oes oesol
(wedi i鈥檙 Saeson golli)
yn mynnu鈥檔 hurt: 鈥渄yma ni!鈥

Hyd angau鈥檔 dal i dyngu: 鈥渄yma鈥檙 un,
dyma鈥檙 awr i Gymru
wneud nid dweud!鈥 Rhoi i鈥檙 naill du

siom un g锚m, sham o own-goal, neu鈥檙 rhincian
am rancings uffernol
a phoenau amddiffynnol:

yn hytrach, yn ara bach, bydd hyder
eto ar ddod o鈥檙 newydd
mai鈥檙 tro yma, dyma鈥檔 dydd.

Mi welaf lan y Sianel a鈥檔 ffeinals
draw dros ffin y gorwel.
O鈥檙 diwedd mae cred dawel

yn y wawr er pob hen wae, yn y gw欧r
a鈥檜 gorau gyd-chwarae:
dod mae鈥檜 cyfnod ar y cae.

Mae鈥檔 wir fod yma鈥檔 aros, o chwilio,
sawl drychiolaeth agos.
Fe wn i am hunllef nos

a minnau鈥檔 ail-fyw Romania, yn gweld
Bobby Gould, a Georgia,
a dryswch droio Rwsia.

Mae hyn yn fy mrathu鈥檔 fy mron, a hyn
sy鈥檔 trywanu鈥檔 greulon
y graith ym mhob blwyddyn gron.

Dduw annwyl holl ddaioni byd y b锚l,
yn anwel eleni
fry o鈥檙 y nef, jest ffafria ni...

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o