Angyles - Carol newydd gan Twm Morys, bardd mis Rhagfyr ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
Angyles – Twm Morys
Ofer Gŵyl sy’n firi i gyd heb ennyd o dawelwch,
Anodd gen i lawenhau a’r Gwyliau heb ddirgelwch.
A dyna’i gweld hi yn y gwyll, yn ôl yr hen ddull chwedlonol,
Yn dod dan hebrwng ar ei hôl y lliaws o lu nefol.
Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi,
Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi,
Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi’n dod!
Mi safodd pawb yn nrysau’r tai, roedd yno rai yn crïo,
Rhai’n arswydo rhag y sêr, a llawer yn gweddïo.
A llefarais innau wrthyn nhw drwy dwrw yr adenydd:
Nac ofnwch, bobol, mae gan hon newyddion o lawenydd!
Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi,
Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi,
Mi rown i’r byd am gael eu gweld hi’n dod!
Mi rown i’r byd am gael ei gweld hi,
Yr holl deganau bach drud am gael ei gweld hi,
Dw i wedi disgwyl c’yd am gael ei gweld hi’n dod!
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 21/12/2014
-
Twm Morys yn son am y garol Angyles
Hyd: 03:09