Frongoch, Bala: Carchar rhyfel mewn hen waith wisgi
Roedd carchar i 2,000 o Almaenwyr a Gwyddelod y chwyldro ym mhentref gwledig Frongoch.
Heddiw, lleisiau plant yn chwarae yn Gymraeg sydd i鈥檞 clywed ar iard Ysgol Bro Tryweryn ym mhentref Frongoch ger y Bala. Ond yn 1916 fe fyddai鈥檙 lle wedi bod yn fwrlwm o Almaeneg wrth i tua 2,000 o garcharorion o鈥檙 Almaen gael eu cludo yma dros gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Adeilad carreg enfawr hen waith wisgi Frongoch oedd yn sefyll yma bryd hynny, ychydig lathenni o鈥檙 brif ffordd rhwng Trawsfynydd a鈥檙 Bala.
Mae Frongoch hefyd yn lle pwysig iawn yn hanes Iwerddon gan fod Gwyddelod oedd wedi ymladd yng Ngwrthryfel y Pasg 1916 yn Nulyn wedi eu carcharu yma hefyd am chwe mis y flwyddyn honno.
Yn y clip yma mae Einion Thomas o Archifdy Prifysgol Bangor a鈥檙 hanesydd a鈥檙 cynghorydd lleol, Elwyn Edwards, yn egluro mor bwysig oedd Frongoch yn hanes y Rhyfel Byd Cyntaf ac hefyd yn hanes Iwerddon a Chymru.
Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, doedd dim trefniadau ar gyfer delio gyda charcharorion rhyfel. Felly gyda thros filiwn o garcharorion wedi eu dal o fewn chwe wythnos i ddechrau鈥檙 brwydo, roedd rhaid dod o hyd i le i'w cadw, a hynny ar frys.
Un o'r llefydd gwag ddewisiwyd fel carchar oedd hen waith wisgi Frongoch oedd wedi ei sefydlu gan RJ Price o St芒d y Rhiwlas yn 1897 ar lan afon Tryweryn. Ond roedd y cwmni wedi mynd i鈥檙 wal erbyn 1910.
Roedd adeilad carreg adeilad enfawr y ddistyllfa, lle roedd haidd yn cael ei gadw ar gyfer gwneud wisgi, yn lle oer a thamp, yn berwi o lygod mawr, a'r amodau byw yn wael iawn. Roedd rhan arall y gwersyll ar y caeau gyferbyn lle roedd y carcharorion yn cysgu mewn pebyll.
Ond roedden nhw鈥檔 cael dipyn o ryddid i ddiddanu eu hunain yn y camp ac mae nifer o luniau o鈥檙 Almaenwyr yn cynnal dram芒u - yn aml wedi eu gwisgo fel merched 鈥 ac yn aelodau o dimau p锚l-droed ac athletau neu鈥檔 chwarae offerynnau.
Roedd rhai o鈥檙 carcharorion Almaenig yn helpu ar ffermydd lleol ac mae llun o ddau garcharor Almaenig, Rudolf a Wilhelm, yn helpu yn y cynhaeaf gwair ar fferm Eithin Fynydd yn Llanuwchllyn, ger y Bala.
Aeth yr Almaenwyr o'r gwersyll am gyfnod pan garcharwyd y Gwyddelod yma rhwng mis Mehefin a Rhagfyr 1916.
Yn Iwerddon mae鈥檙 lle鈥檔 cael ei alw鈥檔 鈥楤rifysgol y Chwyldro鈥 neu鈥檔 鈥楤rifysgol Sinn F茅in鈥 gan fod cyfnod y Gwyddelod yno wedi hau hadau鈥檙 chwyldro a arweinwyd gan gyn garcharorion fel Michael Collins, WJ Brennan-Whitmore a Se谩n T. O'Kelly yno ar 么l mynd adref.
Cafodd y Gwyddelod eu rhoi i gyd gyda鈥檌 gilydd yn Frongoch ar 么l cyfnod mewn gwahanol garchardai dros Brydain. 鈥淚鈥檙 Gwyddelod roedd hynny鈥檔 fanna o鈥檙 nefoedd,鈥 meddai Einion Thomas.
鈥淎m y tro cyntaf roedd pawb efo鈥檌 gilydd a dyna鈥檙 rheswm mae Collins yn gallu ail-greu rhwydwaith derfysgol ar 么l mynd yn 么l i鈥檙 Iwerddon, oherwydd fod yna bobl o bob rhan o Iwerddon yno.鈥
Yn wahanol i鈥檙 Almaenwyr fe wrthododd y Gwyddelod weithio ar ffermydd lleol gan eu bod yn gweld hynny fel rhoi help i fyddin Prydain. Roedd drwg deimlad hefyd rhwng y carcharorion Gwyddelig a swyddogion y camp ac roedden nhw鈥檔 gwrthod cael tynnu eu lluniau yn y gwersyll.
Roedd hyn yn arbennig o wir am y rhai oedd wedi cael eu geni ym Mhrydain gan y gallen nhw gael eu consgriptio i鈥檙 fyddin meddai Einion Thomas: 鈥淩oedd 鈥榥a amharodrwydd ofnadwy i gael eu hadnabod.
"Roedd rhai fel Collins hefyd yn amharod i gael tynnu eu lluniau am eu bod yn gwybod, unwaith eu bod n么l yn Iwerddon, y bydd yn rhaid iddyn nhw ailgychwyn ar y ffeit a doedden nhw ddim eisiau rhoi lluniau o鈥檜 hunain i鈥檙 awdurdodau Prydeinig.
Ond roedd y Gwyddelod yn fwy cyfeillgar gyda鈥檙 Cymry lleol oedd yn gweithio yno. Roedd yr ardal a鈥檙 bobl yn eu hatgoffa o鈥檙 Iwerddon ac roedden nhw鈥檔 synnu o glywed yr iaith Gymraeg mor fyw yno.
Fe gymeron nhw ddiddordeb mawr yn hyn a gofynnodd Michael Collins am eiriaduron i ddysgu鈥檙 iaith. Roedd gwersi Gwyddeleg a Chymraeg yn cael eu cynnal yn y gwersyll.
Un wnaeth eu helpu oedd bachgen ifanc o鈥檙 Bala o鈥檙 enw John Roberts oedd yn gweithio yn siop y camp. Mae recordiad o鈥檌 atgofion yn Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau.
Bu farw pedwar o鈥檙 carcharorion Almaenig yn y gwersyll a chael eu claddu ym mynwent eglwys Frongoch. Cafodd eu cyrff eu symud yn y 1960au i fynwent yr Almaenwyr yn Cannock yn Swydd Stafford. Mae Elwyn Edwards yn cofio chwarae ymysg y beddau pan oedd yn blentyn.
Tynnwyd yr hen adeilad i lawr yn y 1930au.
Ond mae cysylltiad pellach meddai Einion Thomas gan fod y safle wedi ei ddefnyddio fel lle i garafanau鈥檙 gweithwyr oedd yn boddi pentref Capel Celyn i greu cronfa dd诺r Tryweryn: 鈥淔el mae鈥檙 Gwyddelod yn gweld Frongoch fel lle pwysig yn eu hanes cenedlaethol nhw, mi ryden ni yng Nghymru yn gweld yr ardal yne [ardal Capel Celyn a Llyn Tryweryn] yn bwysig yn adfywiad Cymru,鈥 meddai.
鈥淩oedd 鈥榥a lot o Wyddelod o gwmpas, 鈥榙wn i ddim ddaru nhw sylweddoli鈥檙 cysylltiad 芒鈥檙 lle!" ychwanegodd.
Lleoliad: Ysgol Bro Tryweryn, Frongoch, Bala, Gwynedd, LL23 7NT.
Llun: Almaenwyr y tu allan i鈥檙 gwersyll yn 1916 drwy ganiat芒d Archifdy Gwynedd a鈥檙 ysgol sydd ar y safle heddiw.