Christine James - Mangoed
I ddathlu dechrau’r gwaith adeiladu ar safle newydd Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd,
19 Ionawr 2015
Ti yw coed deunydd tÅ· cerdd.
Trawst ein iaith trosti a’i nen
‘Moliant Dafydd Llwyd ap Dafydd o’r Drenewydd’ (Guto’r Glyn)
Os bach i ni bellach y bryncyn
lle safai tŷ dy gân,
cartref bychan
seiri crefft
ger grym llifeiriant Hafren,
ac os llyncwyd tomen
gŵr y llinell union
gan goed a llwyni’n
bwrw rhwydi
cysgod estron dros y tir,
does angen inni chwilio’n hir
trwy’r drysi,
na chloddio’n ddwfn
i’r pridd
ar lannau Hafren,
cyn canfod eto dderwen
sy’n canghennu’n
llys o gân: o’i bonyn
brigodd mangoed
a’u llond o egin ir
sy’n mynnu adfeddiannu tir
rhag grym llifeiriant Hafren.
Christine James
Ionawr 2015
Lluniwyd fel rhan o weithgarwch ‘Bardd y Mis’ Radio Cymru, a’i darlledu ar raglen Dylan Jones, 23 Ionawr 2015
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
-
Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan Jones
Hyd: 09:18
-
Dirgelwch yr Wyau
Hyd: 01:05
-
Taflu paent dros Maria!
Hyd: 01:47
-
Be well na llond bol o chwerthin?
Hyd: 01:39