Mererid Hopwood - Hebog Gobaith
Hebog Gobaith
er cof am Osi Rhys Osmond
Mae’r hebog uwch môr yr aber? Mae’r llan?
Mae’r lliw? Ac mae’r dyfnder?
Mae tân yn y cwm tyner?
Mae Sirhywi’n si? Mae’r sêr?
Daeth mellt i beintio’r pellter a llenwi’r
holl lun, galw gwacter
i’n rhwydo yn ein pryder,
heb ffram, heb ffin, yn flin-flêr.
Daeth taran i rwygo baner ein hedd
a’i hel hi i’r gwter
yn amdo ar ddiddymder
ein gwaedd bell. Mae gweddi bêr?
Ust, ar ysbaid ddistaw’r osber, fe glywn
gof y gloch gyn-amser
yn galw’i wlad at bader,
galw’i blant at siant y sêr.
Yn ei alaw clywn ‘gwneler d’ewyllys’,
a deallwn gryfder
trai uwch llanw, a phwer
taith y mynd maith yn ein mêr.
A gŵyr ein hen gof mai ofer tristwch
y trwste, daw adfer
y lliwiau fesul llawer,
lliwiau aur dy gannwyll wêr.
Wyt y fflam sy’n gloywi’n hamser, – hebog
ein gobaith a’n menter,
wyt wên y darlun tyner
yn lloches wych llwch y sêr.
mh
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
-
Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
-
Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
-
Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
-
Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03