Main content

Alaw'r Ymylon

Rhyw sôn ar gyrion geiriau
ydoedd hi a’i dweud i ddau,
camgymeriad cariadon,
’na’i gyd, dim byd yn y bôn,
un cwr o sgwrs mewn croes gudd -
llinell rhwng dau ddarllenydd.

Ond heddiw daeth ei lliw llwm
yn ofalus o’r felwm,
ac araith fud y graith fach
a fynnodd gael clust feinach;
gwelwn ei hôl o’i glanhau,
cri o’r ochor mewn crychau.

A’i gwers bert? O groesi bant
y gwallau, er dod gwelliant,
mae’r gân nad yw mwy ar goedd
yn arhosol drwy’r oesoedd,
a chilfachau’r bylchau bach
yn fawr iawn eu cyfrinach.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

9 o funudau

Daw'r clip hwn o