Cerdd i Shân gan Elis Dafydd
Shân yn sgwrsio efo Bardd y Mis Radio Cymru, Elis Dafydd.
Atgofion fory
(i Shân Cothi)
Yr ochr yma i’r radio, dydi hi’m yn swnio
fel dy fod di’n gweithio – mai llafur mawr
i ti yw sgwrsio’r bore ac mai paced pae
yw’r unig beth i’th sbarduno i danio disg.
Yr hyn a glywaf i yw un yn blasu
awelon ein dyddiau wrth hwylio drwyddynt
a gwrando hanesion bywydau’n byd
a chwerthin dan swyn y siarad.
Bydd y sgyrsiau’n troi’n atgofion wedyn
pan fydd y stiwdio’n wag – yn bethau
i godi gwên mewn yfory brau
ymhen blynyddoedd.
A flwyddyn ’nôl, bron iawn, bydd rhai yn cofio’r
nodau’n dawnsio ar lwyfan gŵyl a thithau’n
troi cyflafan Sweeney Todd yn sioe i’w chofio.
A’r cofio hwnnw, ar ôl sioe neu raglen radio,
sy’n rhoi i ni yr hyn a fydd yn
codi gwên mewn yfory brau
pan fydd y meic a’r llenni ynghau.