“This is not soccer!” – cerdd Aneirin Karadog i Nigel Owens
John Hardy yn sgwrsio gyda'n Bardd y Mis, a cherdd i'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens.
Aneirin Karadog yn sgwrsio gyda John Hardy am farddoniaeth a rygbi, a cherdd newydd i Nigel Owens, sy'n debygol o ddyfarnu gêm derfynol Cwpan Rygbi'r Byd.
“This is not soccer!”
Mae un o’r cwm yn nhwrw’r cae. Un gŵr:
Ceiliog gwynt y campau;
Gŵr a ddofa gyhyrau
Y maes o’i dweud fel y mae.
O ferw llafar y llwyfan a’i holl sŵn
Drwy’r gwyll seinia’i gytgan;
Gall dorri crib a’i chwiban
Neu roi cais yn glochdar cân.
Trwy orwelion chwarter eiliad y gwêl
Fel hebog ias rhediad
A mès o gyrff maes y gad
Gan olygon ei lygad.
Pan ddaw torf a’i thymer i’w herian e
Ni chlyw un yn sgrechian;
Ei Wendraeth yw dur a thân
ei lais dros lu a’i hisian.
Am unwaith mae Nigel am ennill! Saif
Ei enw’n sawl pennill
A thôn llawn sôn fesul sill
Yn waedd am guro’r gweddill.
Yn ein cân ni fydd gwahaniaeth rhwng dyn,
Rhwng dawn dynoliaeth
I uno gwŷr a fu yn gaeth,
Yn deulu o frawdoliaeth.
Mae un o’r cwm yn arwr cêl drwy’r stŵr,
Un gŵr ar y gorwel;
Yn ddiduedd o dawel,
Mor wych yw’r Gymru a wêl.
Aneirin Karadog
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Cwpan Rygbi'r Byd—Cwpan Rygbi'r Byd
Uchafbwyntiau Radio Cymru o Gwpan Rygbi’r Byd 2015
Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth
Uchafbwyntiau o raglenni ý Radio Cymru.
Mwy o glipiau Bore Cothi
-
Iestyn Garlick
Hyd: 29:10
-
John ac Alun
Hyd: 26:05